Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

 'Creu'r Diwylliant Cywir' - urddas a pharch yn y Cynulliad.

 

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi bod yn archwilio cod ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol a’r broses o sefydlu polisi Urddas a Pharch newydd. Ar ôl ystyried hynt ei waith ac yng ngoleuni'r dystiolaeth a gafwyd, mae'r Pwyllgor wedi cytuno bod angen iddo ddeall yn well sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol.

O ganlyniad, mae'r Pwyllgor wedi cytuno i benodi cynghorydd arbenigol annibynnol i’w helpu i ymdrin â’r materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn a sefydlu grŵp cyfeirio i gynnig her gadarn i gynigion y Pwyllgor wrth iddynt ddatblygu.

Y rôl

Cynghorydd arbenigol

Bydd y cynghorydd arbenigol yn gweithio gydag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor i ddadansoddi'r materion a godwyd, ac i roi cyngor awdurdodol i'r Pwyllgor ynghylch yr Ymchwiliad i Greu’r Diwylliant Cywir, sy'n ystyried  sut y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol.

Bydd angen i ymgeiswyr fod â gwybodaeth arbenigol am y maes a’r gallu i gynnig cyngor clir, cryno a diduedd i wleidyddion, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru:

Y grŵp cyfeirio

Gofynnir i aelodau'r grŵp cyfeirio gynnig her adeiladol i'r Pwyllgor ynghylch y dystiolaeth a roddir i’r Pwyllgor ac ynghylch unrhyw gynigion sy'n deillio o'r Ymchwiliad i Greu’r Diwylliant Cywir.

Addysg a sgiliau

Hoffai'r Pwyllgor glywed gan bobl sydd â gwybodaeth arbenigol am un neu ragor o’r canlynol:

·         aflonyddu rhywiol neu fathau eraill o aflonyddu;

·         sicrhau newidiadau diwylliannol

·         profiad o'r amgylchedd gwleidyddol.

Dylai ymgeiswyr fod mewn sefyllfa dda i gynghori'r Pwyllgor ynghylch sut i sicrhau ei fod yn cael yr amrywiaeth orau o dystiolaeth am y materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad.

Dylai’r cynghorydd arbenigol, yn benodol:  

 Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar  dudalen yr ymchwiliad .

Ymrwymiad o ran amser

Mae'n debygol y bydd rôl y cynghorydd arbenigol yn dechrau fis Ebrill 2018 ac yn parhau am oddeutu pedwar mis.

Mae'n annhebygol y bydd yn rhaid ichi weithio mwy na 10 diwrnod at ei gilydd, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gofynnir ichi weithio mwy na dau ddiwrnod gwaith mewn unrhyw wythnos benodol.

Cewch eich talu fesul diwrnod ar sail y gwaith a wnewch.

Mae'n debygol y bydd aelodaeth o’r grŵp cyfeirio yn dechrau fis Mai 2018 ac yn parhau am oddeutu tri mis, ac mae'n annhebygol y bydd yn rhaid ichi weithio mwy na 5 diwrnod at ei gilydd. Byddwn yn ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol.  

Y broses ymgeisio

I fynegi diddordeb yn rôl y cynghorydd arbenigol neu mewn bod yn aelod o'r grŵp cyfeirio, anfonwch CV, llythyr eglurhaol a datganiad o fuddiannau perthnasol at SeneddSafonau@cynulliad.cymru erbyn 24 Ebrill 2018.

 

Dylai'r llythyr eglurhaol nodi:

Dylai'r datganiad o fuddiannau gynnwys unrhyw beth y gallai person rhesymol ystyried y gallai ddylanwadu ar y cyngor a roddwch i'r Pwyllgor.

Mae enghreifftiau'n cynnwys buddiannau ariannol perthnasol, bod yn aelod o grŵp ymgyrchu berthnasol neu blaid wleidyddol neu’r ffaith bod aelod agos o'r teulu’n ymwneud â’r maes arbenigol hwn.